Rhagair gan y Cadeirydd
Ein gweledigaeth yw bod myfyrwyr bob amser yn cael eu trin yn deg. Rhaid i ymrwymiad ar y cyd i degwch i fyfyrwyr fod wrth wraidd sector addysg uwch llwyddiannus sy’n darparu ar gyfer myfyrwyr ac ar gyfer ein cymdeithas ehangach. Mae effaith ddwys y pandemig coronafeirws dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu heriau gwirioneddol o ran datblygu’r weledigaeth hon. Wrth i ni ddechrau dod allan o’r pandemig, mae cyfleoedd gwirioneddol hefyd i adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu ar y cyd, i greu sector addysg uwch tecach a mwy cynhwysol ar gyfer y dyfodol.
Mae gan SDA ran unigryw a gwerthfawr i’w chwarae yn hyn o beth. Roedd effeithiau Covid-19 yn parhau i fod yn gyd-destun allweddol i’n gwaith yn ystod y flwyddyn, ac rydym wedi parhau i weithio gyda myfyrwyr a’u cyrff cynrychioli, darparwyr, sefydliadau’r sector a llywodraethau i gyfrannu at ymatebion parhaus i’r pandemig a rhannu’r hyn a ddysgwyd o gwynion. Rydym hefyd wedi bwrw ymlaen â llawer o agweddau eraill ar ein gwaith ar draws ystod o faterion sydd o bwys i fyfyrwyr, ac mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2021 yn adlewyrchu hyn.
Ni fyddai dim o’n cyflawniadau eleni wedi bod yn bosibl heb ddoniau ac ymroddiad pawb yn ein sefydliad wrth barhau i gyflawni ein cylch gorchwyl er gwaethaf yr holl heriau parhaus. Hoffwn ddiolch i’n staff rhagorol ac ymroddedig, fy nghyd-aelodau o’r Bwrdd ac yn arbennig y Prif Weithredwr Ben Elger a’r Dyfarnwr Annibynnol Felicity Mitchell sydd, gyda’i gilydd, mor fedrus wrth arwain y sefydliad.
Cyhoeddodd Felicity eleni y bydd yn gadael y sefydliad yn Ebrill 2023 ar ddiwedd ei chyfnod o bum mlynedd. Rwy’n hynod ddiolchgar iddi am bopeth y mae wedi’i wneud, a’r hyn y bydd yn parhau i’w wneud dros y flwyddyn i ddod ar ran SDA.
Adroddiad Blynyddol SDA 2021
PDF, 2152Kb